Part of the debate – Senedd Cymru am 3:42 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Rydw innau hefyd yn croesawu cyhoeddi rhan gyntaf yr adolygiad rhywedd a pholisïau cyfartal, ond mae'n rhaid cydnabod, wrth gwrs, fod y gwaith yma yn un cyfyngedig ac mae'r ffocws ar brosesau'r Llywodraeth. Maen nhw yn bwysig ac mae materion fel asesiadau cydraddoldeb yn hollbwysig, ond mae o'n gyfyngedig, onid ydy, o ran hyrwyddo cydraddoldeb ar draws cymdeithas yng Nghymru, a hynny, yn y pen draw, sydd yn mynd i arwain at wlad lle mae merched yn gallu byw eu bywydau yn ddiogel a lle mae cydraddoldeb yn cael blaenoriaeth?
Rydw i'n cytuno â chi pan ydych chi'n dweud yn eich datganiad fod gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae drwy arwain drwy esiampl fel cyflogwr ac fel gwneuthurwr polisi i greu newid parhaol. Mae argymhelliad 24 o'r adroddiad gan Chwarae Teg yn dweud bod angen i gam 2 ddechrau gyda thrafodaeth gyhoeddus er mwyn gosod gweithredoedd ymarferol—tangible actions—er mwyn hyrwyddo cydraddoldeb. I mi, mae hwn yn argymhelliad pwysig. Oes, mae angen trafodaeth, ond, plis, nid un sydd yn mynd ymlaen ac ymlaen ac ymlaen. Beth sy'n bwysig ydy gweithredu ar feysydd polisi allweddol, ac mae yna eisoes lwyth o dystiolaeth amdanyn nhw. Rydym ni'n gwybod yn barod beth sydd angen ymrafael ag o er mwyn creu gwelliant. Beth sydd eisiau ydy creu'r gwelliant yna.
Un o'r meysydd yna, wrth gwrs, ydy gofal plant, ac mae pawb yn cydnabod bod cael darpariaeth gofal plant rhad, safonol sydd ar gael ymhob rhan o Gymru yn allweddol i hyrwyddo cydraddoldeb. Felly, rydych chi'n gwybod beth rydw i'n mynd i ofyn nesaf: a ydych chi'n credu bod cynnig gofal plant presennol eich Llywodraeth chi yn ffit i'w bwrpas? Tybed a oes angen ailystyried y Bil Cyllido Gofal Plant (Cymru) sy'n mynd drwy bwyllgor ar hyn o bryd, oherwydd mae o'n ein symud ni tuag at un cyfeiriad penodol, ac mae rhanddeiliaid—y rhan fwyaf ohonyn nhw—yn dadlau bod y cyfeiriad hwnnw yn un anghywir, ac yn dadlau bod angen i'r cynnig gofal plant fod yn weithredol pan mae'r plentyn yn un oed, nid yn ddwy oed, ac mai hynny fyddai'n gwneud y gwir wahaniaeth er mwyn caniatáu i fwy o ferched ddod yn ôl i mewn i'r gweithle. Felly, y cwestiwn rydw i'n ei ofyn ydy: onid ydych chi'n meddwl y byddai'n well oedi'r Bil, ailystyried, ac ailgyflwyno cynnig a fyddai'n gwneud y gwahaniaeth rydym ni'n dymuno ei weld?
Yn troi at ail faes, tra bod yr adolygiad yma'n digwydd, a thra bydd Cam 2 yn digwydd hefyd, mi fydd y trafodaethau am Brexit yn parhau ac yn dwysáu, ac mae'n hollbwysig bod hawliau menywod yn cael eu cynnal a'u datblygu yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Hawliau megis yr hawl i dâl cyfartal; hawl i amser o'r gwaith ar gyfer apwyntiadau antenatal; hawliau yn y gweithle i fenywod beichiog neu i fenywod sydd ar gyfnod mamolaeth; iechyd a diogelwch menywod beichiog yn y gweithle; hawliau pensiwn ac ati—hawliau, fel rydych chi'n gwybod, sy'n deillio yn uniongyrchol o'n haelodaeth ni o'r Undeb Ewropeaidd, ond hawliau y mae perygl gwirioneddol iddyn nhw gael eu colli, o gofio'r hinsawdd gynyddol ymosodol yng nghylch hawliau rydym ni'n byw ynddi hi. Ac mae'n rhaid inni wynebu'r posibilrwydd yna y bydd yna ymgais i danseilio rhai o'r hawliau sydd wedi cael eu hennill hyd yma, heb sôn am drio rhwystro symud ymlaen a datblygu hawliau ymhellach. Un ffordd o ddiogelu'r hawliau yma fyddai i wreiddio egwyddorion cydraddoldeb yng nghyfraith Cymru: egwyddorion confensiwn Istanbwl a'r confensiwn ar ddileu gwahaniaethu yn erbyn menywod, er enghraifft.
Felly, hoffwn i wybod, a chymryd y cyfle yma—. Rydw i'n gwybod fy mod i'n crwydro oddi wrth yr adolygiad, ond rydw i'n meddwl bod hwn yn bwysig yn y cyfnod rydym ni ynddo fo. A ydy'r Llywodraeth yn ystyried gwreiddio'r egwyddorion cydraddoldeb yn ein cyfraith ni yma yng Nghymru? Mae yna arbenigwyr, fel yr Athro Simon Hoffman o Brifysgol Abertawe, o'r farn y byddai hi'n briodol i wneud hynny, ei bod hi o fewn ein cymhwysedd ni, ac efallai i gyflwyno Bil i ddiogelu hawliau menywod, a hawliau gweithwyr hefyd, wrth gwrs—Bil penodol Cymreig.
Rydych chi'n sôn yn—