5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion)

Part of the debate – Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Cynnig NDM6760 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) sy'n ymwneud ag ardrethi annomestig, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.