6. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:39 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 4:39, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Do, ac mae yna lawer o bethau yn hyn—. Credaf fy mod drwy gamgymeriad wedi dweud 'newidiadau sylweddol' yn gynharach—newidiadau pwysig yr oeddwn i'n ei olygu, yn hytrach na newidiadau sylweddol. Ond, ydym, rydym ni bob amser yn ymatal ar y gyllideb atodol, oherwydd mae'n cynrychioli newid i gyllideb flaenorol nad oeddem ni'n ei chefnogi, felly nid oes arnom ni eisiau achosi dryswch yn ddi-angen.