Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Wel, efallai y gallaf roi ychydig o gyngor ichi wrth i chi ddechrau ar eich rôl newydd, sef i beidio â chredu popeth a ddarllenwch yn y wasg. Credaf mai dyna'r peth cyntaf i'w ddweud.
Mewn perthynas â'r diffiniad o reolwr tir, fel y dywedaf, mae mwyafrif ein rheolwyr tir yng Nghymru yn ffermwyr ac wedi bod felly erioed. Ni chredaf fod hyn yn newid mawr o ran cyfeiriad. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r ddau gynllun rydym yn eu cyflwyno: y cynllun cadernid economaidd a'r cynllun nwyddau cyhoeddus. Nawr, rydym yn ymgynghori ar gyfansoddiad y cynlluniau hynny a sut y gall y cynlluniau sicrhau y byddwn yn cyflawni ein hamcanion o ran y pum egwyddor a nodais ym mis Chwefror ar gyfer ein sector. Felly, mae'r ymgynghoriad yno. Rwyf wedi clywed yn y wasg y byddwn yn ariannu rhandiroedd. Ni fyddwn yn ariannu rhandiroedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig inni fod yn eglur ynglŷn â'r ymgynghoriad, ac unwaith eto, buaswn yn annog cynifer o bobl â phosibl i ddweud eu barn.