Ynni'r Môr yn Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 1:37, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn o glywed bod Lywodraeth Cymru yn ystyried ffyrdd eraill o wario'r £200 miliwn hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn ymwybodol fod gan gwmnïau ddiddordeb mewn datblygu morlyn llanw oddi ar arfordir gogledd Cymru, gan ddefnyddio technoleg wahanol i'r hyn a gynigiwyd yn y de, ac mae'r cwmni hwnnw a phartneriaid eraill yn chwilio am gyllid sbarduno er mwyn gwneud gwaith cwmpasu gyda Phrifysgol Bangor ac eraill. Tybed a allwch ystyried darparu rhywfaint o'r £200 miliwn hwnnw er mwyn gwneud peth o'r gwaith cwmpasu, iddo fod yn ymchwil agored y gall unrhyw un gael mynediad ato os ydynt am ymchwilio ymhellach i'r cyfleoedd gwych a allai fod ar gael i gynhyrchu ynni oddi ar arfordir gogledd Cymru, a fyddai'n darparu manteision eraill, fel manteision amddiffyn rhag llifogydd, a manteision o ran amaethyddiaeth a thwristiaeth yn wir.