Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ni fyddai llunio polisi yn y fan a'r lle yn briodol, hyd yn oed i lefarydd amaethyddiaeth, rwy'n siŵr. Fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynnydd enfawr wedi bod yn nhwf y farchnad cig halal yn enwedig. Nid Mwslimiaid sy'n bwyta llawer o'r bwyd hwn, ac mae wedi mynd i mewn i siopau tecawê prif ffrwd a siopau bwyd brys hefyd. Mae llawer o bobl yn gwrthwynebu bwyta bwyd o'r fath am ba reswm bynnag ar sail lles anifeiliaid. A fyddai'n cytuno â mi ei bod yn bwysig i bobl wybod beth y maent yn ei fwyta, ac felly, y dylai'r rheini sy'n pryderu am yr ystyriaethau lles anifeiliaid a grybwyllais allu gwneud dewis gwybodus mewn amgylchiadau o'r fath? A wnaiff hi ymrwymo i flaenoriaethu mwy o ymwybyddiaeth ymhlith defnyddwyr o ladd at ddibenion crefyddol a lladd heb stynio, nid yn unig drwy labelu cynnyrch mewn archfarchnadoedd ond mewn bwytai a siopau tecawê hefyd?