Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr iawn i chi. Mae'n siŵr y dylai'r cwestiwn fod wedi ei aralleirio i olygu ynni'r môr oddi ar arfordir gogledd Cymru, i fod yn fanwl gywir. Ond, yn sicr, oddi ar yr arfordir, mae yna doreth o ynni ac, wrth gwrs, mae Ynys Môn yn un o'r llefydd lle mae yna waith blaengar iawn yn cael ei wneud i drio medi yr ynni hwnnw. Wrth gwrs, mae prosiectau Morlais a Minesto Deep Green yn ddau o'r rhai mwyaf blaenllaw—mi oedd hi'n braf ymweld â'r ddau efo Simon Thomas rhyw wythnos neu ddwy yn ôl.
Rŵan, o ran prosiect Morlais, mae'r prosiect hwnnw'n cyrraedd at bwynt allweddol. Mae angen symud ymlaen at Morlais B, sef i wneud y cyswllt trydanol, ac mae angen dros £20 miliwn o arian Ewropeaidd—gobeithio a ddaw—ar gyfer hwnnw. Rŵan, o ystyried arian oedd wedi cael ei glustnodi gan eich Llywodraeth chi ar gyfer morlyn Abertawe, prosiect rwyf yn gobeithio a all gario yn ei flaen efo cefnogaeth Cymru, os nad oes gan Lundain ddiddordeb, a ydy'r Llywodraeth, yn yr un modd, yn barod i ystyried buddsoddi ym mhrosiect Morlais fel arian cyfatebol a allai helpu, ochr yn ochr ag ecwiti preifat, i ryddhau'r cyllid Ewropeaidd hollbwysig yna?