Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 1:44, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, diolch am eich ateb, ac rydych yn llygad eich lle fy mod yn cyfeirio at y toriad yn y cysylltiad rhwng yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel incwm sylfaenol a newid—newid sylweddol—i ganlyniadau sy'n seiliedig ar nwyddau cyhoeddus, fel rydych newydd ei ddisgrifio, gan ddefnyddio iaith y Trysorlys i gyfiawnhau rhywfaint o hyn. Rwy'n deall hynny, a chredaf fod llawer yn eich papur ymgynghori i weithio gydag ef ac rwy'n derbyn y cyfeiriad y mae'n mynd iddo. Ond wrth dorri'r cysylltiad rhwng y tir y mae ffermwr yn gyfrifol amdano, a'r fferm deuluol yn arbennig yng Nghymru, rydych hefyd yn torri'r cysylltiad rhwng cynhyrchu bwyd iachus, cynaliadwy a chymorth parhaus y taliadau. A thybed a ydych yn dal o'r farn fod cynhyrchu bwyd yn y fath fodd yn nwydd cyhoeddus ynddo'i hun, neu a yw hynny ond yn cynnwys y manteision amgylcheddol cysylltiedig a ddisgrifiwyd gennych.