Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn oherwydd eich datganiad llafar. Fel y gwyddoch, yn y datganiad hwnnw fe nodoch chi nad ydych yn bwriadu cyflwyno cofrestr cam-drin anifeiliaid ar gyfer Cymru, ar sail y ffaith nad oes digon o dystiolaeth ar gyfer y DU. Wel, holl bwynt rhoi hyn ar waith oedd creu sylfaen dystiolaeth yn y wlad hon. Gwyddom fod tystiolaeth ryngwladol i gefnogi cofrestr cam-drin anifeiliaid, o edrych ar enghreifftiau o Unol Daleithiau America. A yw'r Llywodraeth yn rhwystro uchelgais, neu a oes rhywbeth arall nad wyf yn ymwybodol ohono? Mae'n anodd iawn i ni wneud asesiad o'ch datganiad heb fod yr adroddiad hwnnw o'n blaenau. Mae'r cloc yn tician ar yr adroddiad y dywedasoch wrthym y byddech yn ei roi inni erbyn diwedd y tymor. Buaswn wrth fy modd yn ei weld, i ddeall eich rhesymeg, gan fy mod yn teimlo, os nad ydych yn ei gyflwyno, bydd yn gyfle a gollwyd, a gallem fod wedi bod yn arweinwyr yn y maes hwn.