Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae'n debyg mai'r ateb byr yw: mae arian ar gael bob amser ar gyfer prosiectau da iawn. O ran y £200 miliwn a grybwyllais mewn ateb cynharach i gyd-Aelod—rwy'n cael trafodaethau, trafodaethau cynnar iawn, ynghylch hynny gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Gwneuthum achos dros hynny, wrth gwrs—byddech yn disgwyl i mi wneud hynny wrth eistedd o gwmpas bwrdd y Cabinet. Ond byddwn yn cynnal uwchgynhadledd ynni yn ddiweddarach yn y flwyddyn, ac yn fy marn i, mae'n debyg, pan fyddwn yn edrych ar ba dechnolegau sy'n cael eu cyflwyno yno a pha brosiectau sy'n cael eu cyflwyno yno, dyna pryd y caiff y penderfyniadau eu gwneud, ac unwaith eto, rwy'n pwysleisio: oni bai bod gan Lywodraeth y DU strategaeth ar gyfer môr-lynnoedd llanw, mae'n hynod o anodd gweld sut y gallwn fwrw ymlaen â hynny. Gwn fod galwadau wedi bod ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â hynny—ni allwn wneud hynny. Credaf fod Llywodraeth y DU wedi gwneud tro gwael iawn â ni yn hyn o beth.