Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi cael llawer o gysylltiad yn ddiweddar ag ymgyrchwyr lles anifeiliaid sy'n pryderu am stynio anifeiliaid cyn eu lladd a defodau lladd anifeiliaid, yn benodol. Ac maent wedi tynnu fy sylw at y ffaith bod lladd heb stynio bellach wedi'i wahardd yn Nenmarc, Gwlad yr Iâ, Sweden a Seland Newydd, fod Cymdeithas Milfeddygon Prydain wedi dweud bod stynio anifeiliaid cyn eu lladd yn well o safbwynt lles, a bod datblygiadau methodolegol diweddar mewn electro-enseffalogramau yn ein galluogi i asesu'r profiad o boen yn fwy uniongyrchol nag erioed o'r blaen, ac mewn perthynas â lloi sy'n cael eu lladd drwy doriad fentrol i'r gwddf, mae'n debyg ei bod bellach yn gwbl glir y gellid dweud bod hyn yn boenus yn y cyfnod rhwng torri'r gwddf a cholli ymwybyddiaeth. Felly, yn yr amgylchiadau hyn, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet edrych eto—yn unol â safbwyntiau Cymdeithas Milfeddygon Prydain a'r RSPCA, a llawer o sefydliadau eraill sy'n ymwneud â lles anifeiliaid, mai'r unig ffordd o gadw at y safonau uchaf o ran lles anifeiliaid mewn lladd-dai yng Nghymru yw drwy sicrhau bod pob anifail yn cael eu stynio cyn eu lladd am ba reswm bynnag?