Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwyr yn fy etholaeth sy'n dal i deimlo'n rhwystredig ac yn ddig oherwydd, er eu bod o dan fwy o fesurau a chyfyngiadau nag erioed o'r blaen, nid yw Llywodraeth Cymru wedi mynd i'r afael go iawn â TB buchol mewn dull cyfannol o hyd. O ystyried eu pryderon, a allwch gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ei hymdrechion dros y 12 mis nesaf ar fynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt yn ogystal â mewn gwartheg? A allwch gadarnhau hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi darparu adnoddau digonol i'r maes hwn i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gwblhau?