Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae gan Gymru botensial i greu cryn dipyn o gynlluniau cynhyrchu carbon isel newydd, a allai ddarparu manteision economaidd a chymdeithasol. Mae polisïau a mecanweithiau cymorth Llywodraeth Cymru wedi creu amgylchedd cadarnhaol ar gyfer datblygu ffyrdd newydd o gynhyrchu ynni. Rydym yn canolbwyntio bellach ar sicrhau bod Cymru'n elwa yn y tymor hir o unrhyw ddatblygiad pellach.