Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Gwn fod Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi crynodeb o'i hasesiad gwerth am arian, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, rydym yn ei adolygu ar hyn o bryd, a chredaf fod y camau y byddwn yn eu cymryd yn dibynnu ar ein casgliadau yn sgil hynny. Awgrymodd y byddai cost cyfalaf y morlyn llanw arfaethedig ym mae Abertawe dair gwaith yn fwy fesul uned o drydan na gorsaf bŵer niwclear Hinkley Point C. Credaf, felly, fod y rhain yn ffigurau y mae angen inni eu harchwilio yn fanwl, ac rwy'n siŵr y bydd gennym safbwynt, ac yna gallwn benderfynu ar ba gamau rydym am eu cymryd.