Cynhyrchu Ynni

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 2:13, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ychydig wythnosau'n ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, fe gyhoeddoch chi dargedau interim yn y ddwy gyllideb garbon gyntaf ar gyfer Cymru, ac fe ddywedoch y byddech yn ymgynghori ar gynllun gweithredu i'w cyflawni ym mis Gorffennaf. A allwch ddweud rhagor am y cynllun gweithredu hwn, a rôl ynni adnewyddadwy yn ei gyflawni?