Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:30, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yn ddiweddar, cafwyd nifer o geisiadau cynllunio llwyddiannus ar gyfer llety myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae rhai pobl wedi sylwi bod bron bob bloc mawr sydd wedi cael caniatâd cynllunio yng nghanol Caerdydd yn y 18 mis diwethaf wedi bod ar gyfer llety myfyrwyr. Ar yr un pryd, mae gennym ail floc myfyrwyr fel y'i gelwir yn ystyried gwneud cais am newid defnydd fel y gellir rhentu'r ystafelloedd i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr, o ganlyniad i ddiffyg galw gan y myfyrwyr. Mae gennym hefyd floc mawr yng Nghasnewydd nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer myfyrwyr yn unig mwyach. Os oes diffyg galw am y blociau sydd eisoes wedi'u hadeiladu, pam fod mwy o flociau myfyrwyr yn cael eu hadeiladu, tybed. A yw Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o'r mater hwn, a beth rydych yn ei wneud i reoleiddio'r maes hwn?