Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch i chi am hynny, sydd, yn rhannol, yn galonogol. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar holl fater effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae ein tystiolaeth wedi awgrymu bod nifer sylweddol o rwystrau i gyflawni newid trawsnewidiol yn y gwaith o adeiladu tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladu Cartrefi wedi mynegi pryder y bydd newid trawsnewidiol yn arwain at lai o dai yn cael eu hadeiladu, ac mae sefydliadau eraill, gan gynnwys Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr Cymru, wedi adleisio pryderon fod yna nifer o heriau eisoes i adeiladu'r nifer angenrheidiol o dai fforddiadwy, yn enwedig os yw targedau tai'n mynd i gael eu cyrraedd.
Nid yw'n swnio fel pe bai'r sector yn barod am yr heriau sy'n ei wynebu, a chredaf fod yn rhaid i ni eu gwthio o ddifrif oherwydd rydym angen llawer mwy o ymateb ganddynt, ac uchelgais. Er enghraifft, rydym wedi gweld yr wythnos hon fod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau ei strategaeth uchelgeisiol 'Road to Zero', sy'n cynnwys cynnig i osod mannau gwefru ceir electronig ym mhob cartref newydd ym maestrefi Lloegr. Dyma'r math o bolisi integredig rydym ei angen, ac rwy'n gobeithio—. Mae'r gronfa arloesi yn syniad gwych, ond mae angen iddo arwain yn gyflym at brif ffrydio'r datblygiadau mawr y gwyddom y byddant yn gweithio, fel gosod mannau gwefru mewn cartrefi newydd fel mater o drefn. Rwy'n gobeithio y byddwch yn herio'r sector, yn enwedig yr adeiladwyr tai preifat, i wella eu harferion.