Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n falch eich bod yn ymwybodol o'r mater. Credaf efallai fod angen i Lywodraeth Cymru chwarae rôl fwy yn y maes hwn, gan nad yw'r awdurdodau lleol o bosibl—yn sicr yng Nghaerdydd a Chasnewydd—yn gwneud digon am y peth. Credaf ei bod yn bosibl y bydd gennym ormod o adeiladau llety myfyrwyr. Yn sicr, rydym yn gwybod na all yr ehangu mewn addysg uwch barhau am byth; ni fydd cyflenwad diddiwedd o niferoedd myfyrwyr yng Nghaerdydd, Casnewydd, nag unrhyw le arall yng Nghymru, yn ôl pob tebyg. Credaf efallai fod rhyw fath o sgiâm ar waith yma. Mae'n bosibl fod y prifysgolion yn mynd ati'n fwriadol i greu gorgyflenwad o fflatiau ar gyfer y farchnad myfyrwyr, fel y gallant newid eu defnydd drwy'r drws cefn, a'u defnyddio wedyn i'w rhentu'n fasnachol. Rydym yn gwybod bod rheolau llai llym yn gymwys ar gyfer fflatiau myfyriwr nag ar gyfer datblygiadau masnachol, er enghraifft, ac rydych wedi cyfeirio at hynny yn eich ateb. A ydych yn ymwybodol y gallai prifysgolion fod yn twyllo'r cynghorau lleol i ganiatáu iddynt ddatblygu'r blociau myfyriwr hyn, a bod penaethiaid y prifysgolion yn gwybod yn iawn y byddant yn eu rhentu'n fasnachol wedyn?