Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 2:54, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Bu cyn-weithiwr o gyngor Caerdydd yn fy ngweld yn ddiweddar mewn perthynas â mater difrifol yn ymwneud â chyflogaeth. Tramgwyddodd yn erbyn darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol 1972, a oedd yn golygu, ar ôl i'w gyfnod fel cynghorydd etholedig ddod i ben, ei fod wedi'i wahardd rhag gweithio i'r cyngor hwnnw am 12 mis. Roedd wedi bod yn gweithio i'r cyngor am chwe mis pan sylweddolwyd eu bod wedi tramgwyddo'r ddarpariaeth hon. Er nad oedd unrhyw broblemau gyda'i berfformiad, a chydag amarch llwyr, cafodd ei ddiswyddo yn y fan a'r lle. Ni chafodd unrhyw gymorth gan y cyngor. Maent wedi methu darparu unrhyw opsiynau cyflogaeth amgen iddo ac ar ôl 13 mis, maent wedi penodi rhywun arall i'r swydd, er bod yr unigolyn wedi gwneud cais am ei swydd ei hun yn ôl. Mae'r cyngor wedi gwrthod cyfathrebu ac wedi methu ymateb i gais gwrthrych am wybodaeth, ac mae bellach yn wynebu tribiwnlys o ganlyniad. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i edrych ar yr achos hwn a'r mater yn gyffredinol i sicrhau canlyniad teg i'r unigolyn hwn ac eraill a allai dramgwyddo'r hen reol hon yn y dyfodol? Buaswn yn fwy na pharod i ysgrifennu atoch gyda mwy o fanylion os oes angen.