Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Yn dilyn y ddadl ddoe ar dai fforddiadwy yng Nghymru, hoffwn gyffwrdd ar rai pryderon ehangach pwysig na chawsant eu codi yn y ddadl. Mae fy mhryderon yn ymwneud yn arbennig â sicrhau bod y cyflenwad cynyddol o dai sydd eu hangen arnom yn addas ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu anghenion a gofynion cenedlaethau'r dyfodol, yn enwedig o ran effeithlonrwydd ynni. Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu'r her o foderneiddio cartrefi na chawsant eu gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol pan gawsant eu hadeiladu'n wreiddiol, na chydag unrhyw hyblygrwydd i allu addasu, ac yn ddelfrydol, mae angen i ni ddysgu o hanes a pheidio ag ailadrodd y camgymeriad hwn. Felly, pa gymorth sy'n cael ei roi i'r sector fel y gallant adeiladu'r niferoedd mawr o dai o safon sydd eu hangen i fod yn gynaliadwy yn yr unfed ganrif ar hugain?