Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:33, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Dylent. Rydych yn cyfeirio at yr angen am ddull o weithredu sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac rwy'n siŵr eich bod yn iawn yn hynny o beth. Ond efallai y bydd goblygiadau o ran eich dyheadau am dai fforddiadwy yng Nghymru, y buoch yn dweud wrthym amdanynt yn y Cynulliad yr wythnos hon. Yn sicr, roeddem yn cytuno bod gennym brinder tai fforddiadwy yma.

Mae datblygwyr masnachol, pan fyddant yn adeiladu ystadau tai newydd, wedi'u rhwymo'n gyfreithiol i ddarparu elfen o dai fforddiadwy. Nid oes unrhyw reidrwydd o'r fath ar ddatblygwyr sy'n adeiladu blociau myfyriwr fel y'u gelwir. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn dod yn fwy ymwybodol o'r hyn y mae'r prifysgolion yn ei wneud o bosibl, ac yn ymchwilio i'r arfer, mae perygl eich bod yn caniatáu i'r prifysgolion, a'u partneriaid yn y busnes adeiladu, danseilio eich dyheadau am dai fforddiadwy. Felly, a ydych yn ymwybodol o'r bygythiad hwn? A gofynnaf i chi eto: a ydych yn bwriadu gwneud unrhyw beth yn ei gylch?