Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rwyf wedi cael llawer o sylwadau gan ysgolion yn y Rhondda ynghylch yr argyfwng ariannu sy'n eu hwynebu yn y flwyddyn ariannol hon ac wrth gwrs, yn y dyfodol y gellir ei ragweld. Mae Ysgol Gyfun Treorci wedi colli bron i £0.25 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, heb unrhyw ostyngiad cyfatebol yn nifer y disgyblion.
Ar ben hynny, mae gennym broblem gyda chyflwr adeiladau ysgol. Roedd un ysgol yr ymwelais â hi yn ddiweddar yn beryglus i ddiogelwch disgyblion gan fod lwmp o goncrid wedi cwympo o do a oedd wedi dadfeilio i mewn i'r ystafell ddosbarth. Mae athrawon yn colli eu cymhelliant, mae ysgolion yn dadfeilio, ac mae disgyblion mewn perygl. Sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn cael digon o arian i sicrhau y darperir gwersi ysgol mewn amgylchedd addas a diogel a bod ystafelloedd dosbarth wedi'u staffio'n ddigonol?