Dulliau Pleidleisio Newydd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:57, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, mae'r Aelod Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi ateb y cwestiwn o'i sedd mor gynhwysfawr ag y gallwn i o'r fan hon. Rydych chi, wrth gwrs, yn cymharu canran o'r pleidleiswyr ni waeth beth yw nifer y pleidleiswyr yn yr etholiad hwnnw'n digwydd bod. Felly, mae'n parhau i fod yn hollol ac yn gwbl gymaradwy. Ni wn a yw fy ffrind da o ran arall o sir Fynwy yn ceisio dadlau yn erbyn newidiadau yn y modd hwn. Gobeithio nad yw, oherwydd dyna'r ddadl waethaf i mi ei chlywed ers nifer o flynyddoedd. Rwyf am ddweud wrth yr Aelod dros sir Drefaldwyn, neu sir Fynwy—[Chwerthin.] Mae pawb ohonom yn pryderu ynglŷn â chanlyniad yr etholiad yn sir Drefaldwyn bellach.

Rwyf am ddweud wrth fy ffrind o sir Fynwy ein bod yn ceisio rhoi nifer o newidiadau ar waith, a diben y newidiadau hynny yw darbwyllo mwy o bobl i gymryd rhan mewn etholiadau lleol, cynyddu nifer y bobl sy'n gallu cymryd rhan mewn etholiadau a galluogi mwy o atebolrwydd democrataidd yn lleol. Mae'r rhain i gyd yn bethau cadarnhaol iawn, a gobeithiaf y cawn gefnogaeth o bob ochr i'r Siambr.