Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rwyf wedi dweud mewn ymateb i'r cwestiwn cynharach nad yw'r materion hyn yn faterion datganoledig, ond mae'r rhain yn amlwg yn faterion y mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb mawr ynddynt. Rydym yn sicrhau, fel y dywedais eisoes, fod gennym ryddhad ardrethi busnes a chymorth busnes i alluogi busnesau bach i gael cymorth Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd. Ond rwy'n credu hefyd fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyfrifoldeb sylweddol iawn yma, a buaswn yn awgrymu'n garedig iawn i'r Aelod Ceidwadol dros Ddwyrain De Cymru ei fod yn ysgrifennu at ei gyd-Aelodau Ceidwadol yn Llundain ac yn egluro wrthynt yn ofalus iawn fod y trethdalwr wedi gwario llawer iawn o arian ar gadw'r system fancio'n weithredol ac mae'n hen bryd i'r trethdalwr gael rhywfaint o'r adnoddau hynny yn ôl o ran rheoleiddio banciau i sicrhau nad yw cymunedau'n cael eu rhoi yn y sefyllfa hon. Felly, buaswn yn dweud yn garedig iawn wrth yr Aelod: ysgrifennwch at eich cyd-Aelodau yn Llundain a dywedwch wrthynt am dorchi eu llewys.