Dulliau Pleidleisio Newydd

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:59, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Lywydd, rydym yn hapus iawn i ystyried y ddau awgrym. Buaswn yn edrych ar bleidleisio electronig, pleidleisio ar ddiwrnodau gwahanol, megis dros y penwythnos, gorsafoedd pleidleisio symudol, pleidleisio electronig, a chyfrif electronig yn ogystal. Mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe wedi'i wneud am ddiogelwch y bleidlais yn un da ac rwy'n ei dderbyn. Rydym yn gweithio'n agos gyda grŵp strategol arbenigol—bwrdd y rhaglen diwygio etholiadol—ac mae'n cynnwys nifer o gynrychiolwyr sy'n sicrhau bod gennym bleidleisio diogel fel rhagofyniad ond sydd wedyn yn edrych yn greadigol ar sut i symud ymlaen, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dyna ein nod, a dyna y ceisiwn ei gyflawni.