Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:16 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd y gydnabyddiaeth o'r niwed sylweddol a achoswyd pan fo llawdriniaethau rhwyll wedi mynd o chwith. Rwyf wedi cyfarfod â phobl yn y sefyllfa honno eu hunain ac mae pob un ohonom wedi cael ein heffeithio gan y dystiolaeth real iawn a roddwyd ganddynt. Y sefyllfa yma yng Nghymru yw ein bod wedi mabwysiadu dull mwy gwyliadwrus ers yr adroddiad a gyhoeddwyd a'r datganiad a wneuthum i'r lle hwn ym mis Mai, ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod gwyliadwriaeth debyg yn parhau. Mae'n bwysig—nid wyf eisiau mynd ar goll yn y broses o ail-ddisgrifio’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr neu geisio dweud bod mwy neu lai o wyliadwriaeth, ond credaf fod gwyliadwriaeth debyg ym mhob un o wledydd y Deyrnas Unedig ar y mater hwn. Os edrychwch ar yr hyn y mae'r Farwnes Cumberlege ei hun wedi'i ddweud, dywedodd,
Ar y pwynt hwn yn ein hadolygiad nid ydym yn argymell gwaharddiad.
Yn yr ymateb gan Brif Swyddog Meddygol Lloegr, yn ei gohebiaeth â'r Farwnes Cumberlege, cyfeiriodd hithau hefyd at sgwrs gyda'r Farwnes Cumberlege pan ddywedodd, 'Byddai'n anghywir i mi weithredu gwaharddiad llwyr. Hoffwn bwysleisio y dylem gofio y gall y driniaeth hon fod yn ddewis olaf i rai cleifion sy'n dioddef anhwylder gwanychol.'
Felly, dyna'r her. Nid lle gwleidyddion yw penderfynu, 'Dyma restr o driniaethau lle y gallwch ddefnyddio rhwyll a rhestr o driniaethau eraill lle na allwch ddefnyddio rhwyll'; mae hyn yn ymwneud â'r cyngor a'r canllawiau a roddir i weithwyr meddygol proffesiynol ynglŷn a'r gofal y maent yn ei roi i'w cleifion, ac yn ymwneud â chydsyniad ar sail gwybodaeth ddilys am y risgiau sy'n bodoli yn ogystal. Felly, dylai hwn fod yn faes lle mae gwleidyddion yn petruso cyn dweud, 'Rwyf wedi penderfynu drosoch chi pa driniaeth sy'n briodol', gan gynnwys os yw triniaeth yn ddewis olaf go iawn, sef y sefyllfa roeddem eisoes ynddi yng Nghymru gyda'r adolygiad arbenigol a gawsom.
Byddwn yn parhau i weithio ar sail amhleidiol rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig, ond yn allweddol, gyda'r rheoleiddiwr a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a hefyd gyda'r gymuned glinigol ac yn hollbwysig, gyda'r unigolion eu hunain sydd naill ai wedi'u niweidio o ganlyniad i ddefnyddio rhwyll yn y gorffennol, ond yn yr un modd, gyda'r bobl y gallai'r driniaeth fod yn ddewis olaf iddynt. Dyna'r pwynt—ei fod yn ddewis olaf go iawn a'n bod yn rhoi camau ar waith yng Nghymru mewn perthynas â thriniaethau eraill, triniaethau mwy ceidwadol, cyn gwneud unrhyw benderfyniadau i wneud llawdriniaeth.
Felly, gobeithio bod hynny'n rhoi sicrwydd go iawn i'r Aelodau y gwn eu bod, yn y gwahanol bleidiau, yn pryderu am y mater hwn. Nid yw'r dull o weithredu rydym yn ei fabwysiadu yng Nghymru yn llai gwyliadwrus nag unrhyw un o wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Mae sicrhau bod rhagor o gamau yn cael eu cymryd i wella gofal yn y maes hwn o fudd i bob un ohonom, a dyna pam fod gennym grŵp o arbenigwyr a fydd yn parhau ac yn bwrw ymlaen â'r mater hwn, a byddant yn cyfarfod am y tro cyntaf, fel y dywedais yn fy ateb i Jack Sargeant, ddechrau mis Awst.