Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch i chi am eich ymateb i'r cwestiwn amserol pwysig hwn, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'r mater yn effeithio ar fenywod ledled y DU, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i Maxine Cooper, un o fy etholwyr, sydd wedi bod yn gweithio gydag ymgyrch Sling the Mesh ers nifer o flynyddoedd yn dilyn llawdriniaeth a gafodd yn 2010. Gwn fod Maxine yn gweithio'n agos gyda fy nhad ar y mater hwn, a byddaf fi, hefyd, yn gwneud popeth a allaf i'w chefnogi. Fel cymaint o rai eraill, yn enwedig y menywod sydd wedi ymgyrchu gyda dewrder ac ymrwymiad, fel Maxine, roeddwn yn falch iawn pan wnaeth y GIG yn Lloegr y cyhoeddiad ddoe ei fod yn cyfyngu ar lawdriniaethau rhwyll ar unwaith o ganlyniad i bryderon diogelwch. Gwn fod llawer o fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr wedi bod yn gweithio ar y mater hwn hefyd, a bod fy nghyd-Aelod, Jane Hutt wedi cynnal cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda grŵp goroeswyr rhwyll Cymru. Mae adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen Cymru ar y mater hwn wedi gwneud rhai argymhellion pwysig iawn ac wedi cynnwys rhestr o'r hyn y mae menywod wedi gofyn amdano, ac nid yw'n syndod fod rhoi terfyn ar y defnydd o rwyll lawfeddygol ar y rhestr honno.
Nawr, mae gennyf ychydig o gwestiynau i'w gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf, a yw'n hyderus fod gan y byrddau iechyd lefelau digonol o reolaeth glinigol, cydsyniadau, archwiliadau a gwaith ymchwil i sicrhau y gall pob menyw fod yn hyderus fod y mesurau diogelwch priodol yn eu lle? Ddoe, cyfeiriodd arweinydd y tŷ at y dystiolaeth sy'n dangos bod gostyngiad sylweddol yn nifer y llawdriniaethau rhwyll weiniol yng Nghymru. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu y bydd hyn yn parhau i fod yn wir hyd nes y gellir bodloni'r gofynion am fwy o ddiogelwch? Yn olaf, a allech roi'r newyddion diweddaraf inni am y grŵp gweithredu a fydd yn goruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar fyrder? Fel y dywedwch yn gywir, Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen i ni sicrhau bod mynediad cynnar at gymorth arbenigol ar gyfer cymhlethdodau llawdriniaethau er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf i fenywod a dynion fel ei gilydd. Diolch.