Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Os caf gyfeirio at rai o'r cyfraniadau—yn gyntaf, Adam Price. Adam, fe nodoch fod proses gwneud penderfyniadau Llywodraeth Cymru yn wael, a dangoswyd hynny gan yr hyn a welsom yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth edrych ar y dystiolaeth o broses Cylchffordd Cymru a'r problemau. Ac rydych yn iawn: rhaid inni ddod allan o'r llanastr hwn. Credaf mai dyna'r brif neges a ddaw gan y pwyllgor. Rydym yn y sefyllfa rydym ynddi, fel sy'n cael ei ddweud yn aml, ac mae angen edrych yn awr i'r dyfodol a gwneud yn siŵr fod y problemau sydd wedi digwydd yn y gorffennol—y camgymeriadau, os ydych am eu galw'n hynny, sydd wedi digwydd yn y gorffennol ar sawl lefel wahanol—yn cael eu hunioni fel na chaiff yr un camgymeriadau eu hailadrodd os ceir prosiect o'r math hwn eto yn y dyfodol. Fe ddefnyddioch chi'r ymadrodd, 'tirwedd o freuddwydion briw', a rhaid inni beidio ag anghofio ar ddiwedd hyn i gyd fod yna ardal o Gymru sy'n ddifreintiedig iawn, ac angen ei hadfywio, lle mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru roi gobaith ar gyfer y dyfodol, ar gyfer adfywio, ar gyfer ailddatblygu, ac roeddent yn disgwyl i'r prosiect hwn fod yn ffordd o godi eu hunain allan o'r problemau y maent ynddynt ac y maent wedi bod ynddynt ers amser hir iawn. Ac ni allwch ond deall bod y bobl hynny'n teimlo bod cyfle wedi'i gipio oddi wrthynt ar ôl y fath ddisgwyl hir pan oeddent yn meddwl y byddai'r prosiect hwnnw'n mynd rhagddo.
Neil Hamilton, fe ddisgrifioch chi brosiect Cylchffordd Cymru fel un ysbrydoledig ac fe sonioch chi am anghymhwysedd syfrdanol ar hyd y llwybr a gymerwyd. Fel y dywedoch, gallai Cylchffordd Cymru fod wedi newid pethau'n sylfaenol, ac rydych chi'n iawn, ni allai'r pwyllgor ddirnad pam y rhoddwyd y prosiect o'r neilltu yn y pen draw, pam y cafodd ei ddirwyn i ben yn y pen draw, o ganlyniad i ddyfais gyfrifyddu yn llyfr rheolau'r Trysorlys. Ac fel y dywedoch chi, wrth gwrs, nid oedd y ddyfais gyfrifyddu'n ychwanegiad newydd i lyfr rheolau'r Trysorlys. Roedd wedi bod yno o ddiwrnod cyntaf y prosiect hwn, o gamau cyntaf y prosiect hwn. Felly, ni allem ddeall—a chredaf ar ddiwedd ein trafodaethau na allai'r pwyllgor ddeall—pam na chrybwyllwyd y ddyfais gyfrifyddu yn llawer cynharach fel rheswm dros beidio â bwrw ymlaen gyda'r prosiect, fel rheswm dros fynd at y datblygwyr a dweud, 'Edrychwch, mae hyn yn rhywbeth na all Llywodraeth Cymru ei fforddio.' Ni allem ddeall hynny. Nid oedd diwydrwydd dyladwy, a gafodd ei gyflawni, i'w weld ar y diwedd yn rhan o'r broses benderfynu derfynol. Felly, mae'n peri i ni ofyn: 'Pam y gwnaethoch chi'r diwydrwydd dyladwy?' Wel, wrth gwrs, rhaid ichi wneud y diwydrwydd dyladwy; mae hynny i gyd yn rhan o roi caniatâd i brosiect. Felly, mae'n amlwg fod rhywbeth wedi mynd o'i le yn yr achos hwnnw.
Mohammad Asghar, fe gyfeirioch chi at broses wneud penderfyniadau 'anesboniadwy'—a dyna'r term sy'n ymddangos yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwyddo draw—a arweiniodd at wastraffu miliynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac roedd hi'n ymddangos, o'n safbwynt ni, fod yna ddiffyg goruchwyliaeth weinidogol neu ddiffyg trywydd papur fan lleiaf i benderfynu a oedd goruchwyliaeth weinidogol ai peidio ac yn fy marn i, dyna oedd un o'r pethau a berai fwyaf o bryder o'r cyfan. Ni allem weld a oedd—nid chi, nid y Gweinidog presennol; y Gweinidog blaenorol a oedd ynghlwm wrth hyn. Ni allem benderfynu a oedd hi wedi cymeradwyo'r penderfyniad i ariannu rhan FTR y cynllun ai peidio. Ni chafwyd trywydd papur. Am swm o £300,000, ni ellir caniatáu i hynny ddigwydd yn y dyfodol. Efallai fod yna gytundeb ar lafar, ond ni all hynny fod yn ddigon. Fel Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, rhaid inni allu dangos, pan fydd prosiectau ac arian yn cael eu cymeradwyo, fod yna reswm dilys dros wneud hynny. Felly, roedd hynny'n amlwg yn rhan wael o'r broses hon.
Yn olaf, a gaf fi groesawu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet? Gwnaethoch nifer o bwyntiau da iawn, ac rwy'n falch eich bod wedi gwrando ar y materion a nodais a'r materion y mae Aelodau eraill wedi'u crybwyll ac a nodwyd gan yr adroddiad, a'ch bod yn bwriadu unioni rhai o'r rhain—yr holl bethau hyn. A gadewch i ni fod yn glir, mae rhai o'r Aelodau yma wedi bod yn llafar iawn eu cefnogaeth i Cylchffordd Cymru ers amser maith ac yn parhau i fod. Nid yw rhai Aelodau wedi bod yn hoff o'r prosiect o gam cynnar iawn. Nid dyna oedd diben y pwyllgor. Nid oeddem yn edrych ar hyn er mwyn dweud a oedd hwn yn benderfyniad polisi cywir gan Lywodraeth Cymru ai peidio. Rydym yno i ddweud, ar hyd y ffordd, wrth wneud penderfyniadau a phan gâi arian ei ryddhau, fod hynny wedi'i wneud am y rhesymau cywir. Mae'n ddrwg iawn gennyf ddweud na allai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddweud bod gwerth am arian wedi'i gyflawni wrth wario arian ar y prosiect hwn mewn ffyrdd gwahanol, ac rydym yn gobeithio o ddifrif, yn y dyfodol, y bydd Llywodraeth Cymru'n dysgu gwersi o'r hyn sydd wedi digwydd yma. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod y gwersi hynny wedi'u dysgu. Nid ydym yn gwbl argyhoeddedig eu bod wedi'u dysgu'n gyfan gwbl eto. Yn y dyfodol, rydym yn gobeithio y bydd y gwersi wedi'u dysgu ac na fydd cadeirydd cyfrifon cyhoeddus yn sefyll yma yn y dyfodol, yn dweud am brosiect yn y dyfodol, 'Onid yw'n drueni na ddysgwyd y gwersi hyn?' Mae angen inni wneud hyn ar gyfer Cylchffordd Cymru. Gadewch i ni unioni hyn a gwneud yn siŵr, yn y dyfodol, nad yw'r camgymeriadau hyn yn cael eu gwneud.