7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:42, 11 Gorffennaf 2018

Rydw i'n meddwl y gallaf i siarad ar ran pob un ohonom ni sy'n Aelod o'r Cynulliad yma drwy ddweud ein bod ni'n dysgu llawer yn aml iawn wrth ymwneud â gwahanol ymgynghoriadau, ac mi wnaf i ddechrau fy nghyfraniad i efo cyfaddefiad: nid oeddwn i wedi sylweddoli cymaint oedd graddfa y mater yma oedd dan sylw. Nid oeddwn i wedi sylweddoli maint y broblem. Ond unwaith i ni ddechrau cymryd tystiolaeth fel pwyllgor, mi ddaeth hi'n amlwg iawn i fi a fy nghyd-Aelodau fod y dystiolaeth yr oeddem ni'n ei chlywed ac yn ei darllen yn bwerus ac yn ddirdynnol, ac mi oedd hi fel gwylio sgandal yn ymddangos o flaen fy llygaid—neu fel yna roeddwn i'n teimlo—gyda thyst ar ôl tyst yn adrodd wrthym ni stori a oedd yn gyson iawn ac yn ddirdynnol tu hwnt.

Nid ydw i'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn ein cartrefi gofal ni ag ysbytai yn digwydd oherwydd esgeulustod neu falais yn gyffredinol, ond mi ydw i'n grediniol, ar ôl ein gwaith ymchwil ni, mai camdriniaeth ydy'r hyn sydd yn digwydd. Dyna ydy'r canlyniad, a'r hyn sy'n digwydd ydy ein bod ni wedi caniatáu i'r defnydd o feddyginiaethau diangen, sydd gyfystyr i fi â cham-drin difrifol, ddod yn rhywbeth normal, ac mae'n rhaid rhoi pen ar hynny. Y gwir amdani ydy bod rhoi meddygaeth ddiangen i bobl fregus yn fater difrifol, ac fel rydym ni fel pwyllgor yn ei ddweud yn glir iawn yn yr adroddiad yma, mi oedd hi'n bryderus iawn clywed pa mor aml roedd hyn yn cael ei ddewis fel opsiwn cyntaf, nid fel dewis olaf. A dyna pam—oherwydd y difrifoldeb yma—rydym ni'n ystyried hyn. Dyna pam rydym ni wedi gwneud argymhellion ar wneud yn siŵr bod yna gydymffurfiaeth â chanllawiau NICE, bod angen datblygu rhestr wirio i staff gofal, bod angen rhoi sgiliau angenrheidiol i’r staff gofal i ymdrin ag ymddygiad heriol, ac yn y blaen, ac yn y blaen.

Rydw i mor siomedig yn ymateb y Llywodraeth. Er mai dim ond un argymhelliad maen nhw wedi’i wrthod, o edrych ar y rhai maen nhw yn eu derbyn mewn egwyddor, waeth iddyn nhw fod wedi eu gwrthod nhw ddim. Yn ymarferol, mae ymateb y Llywodraeth yn golygu eu bod nhw am drosglwyddo’r cyfrifoldeb dros weithredu i bobl eraill. Er enghraifft, yn argymhelliad 2, mae’r Llywodraeth yn dweud mai gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n gyfrifol am gydymffurfio efo canllawiau NICE. Mewn argymhellion eraill, mae’r Llywodraeth jest yn dweud y byddan nhw’n gofyn i randdeiliaid neu grwpiau cynghori i ystyried yr adroddiad yma wrth gynnal adolygiadau a diweddaru canllawiau. Mae fel pe baen nhw’n credu nad oes yna rôl i’r Llywodraeth rhywsut wrth gyhoeddi canllawiau a darparu arweinyddiaeth yn y maes yma.