Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae ein hargymhelliad cyntaf yn ymwneud â chasglu data. Dywedwyd wrthym fod y diffyg data a chofnodion yn golygu bod anhawster mawr wrth bennu darlun cenedlaethol o nifer yr achosion a phatrymau rhagnodi meddyginiaethau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal. Rydym yn gwybod bod gwaith yn mynd rhagddo gyda Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i wneud gwelliannau a chasglu data newydd, ond bydd yn dal i fod cyfyngiadau gyda'r data newydd a gesglir a bylchau yn ein dealltwriaeth o nifer y bobl hŷn mewn cartrefi gofal sy'n cael meddyginiaeth wrthseicotig amhriodol ar bresgripsiwn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, o fewn 12 mis, fod pob bwrdd iechyd yn casglu a chyhoeddi data safonol ar y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal ac yn adrodd yn ôl i'r pwyllgor hwn ar y cynnydd ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o 12 mis. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn unig.
Wrth basio, yn amlwg, o'r 11 o argymhellion a wnaeth y pwyllgor, cafodd chwech eu derbyn mewn egwyddor, cafodd pedwar eu derbyn, a chafodd un ei wrthod, a chafodd yr argymhelliad hwn ynglŷn â chasglu data ei dderbyn mewn egwyddor. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn ei ymateb, yn nodi bod cyfyngiadau sylweddol gyda data rhagnodi a gesglir fel mater o drefn, sy'n golygu, mae'n dweud,
'nad yw’n bosibl priodoli presgripsiynau’n rhwydd i breswylwyr mewn cartrefi gofal'.
Fodd bynnag, clywsom mewn tystiolaeth ei fod eisoes yn digwydd mewn rhai byrddau iechyd, sy'n arwain at y cwestiwn: os gall rhai ei wneud, pam na all pob un ei wneud? Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ymrwymo i gynnull grŵp o arbenigwyr perthnasol i edrych ar ddefnyddioldeb ffynonellau data amrywiol a chynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi. Ymddengys bod hyn yn awgrymu y byddant yn archwilio ffynonellau data presennol ac yn cynghori ar sut y gellir defnyddio data o'r fath i leihau'r arfer o ragnodi, ac nid yw hynny'n rhoi'r argraff y bydd argymhelliad y pwyllgor yn cael ei dderbyn o gwbl. Buaswn yn gwerthfawrogi eglurhad gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y pwynt hwn, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y cylch gorchwyl a'r amserlen ar gyfer y grŵp arbenigol hwn.