Part of the debate – Senedd Cymru am 4:48 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor, staff Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a'r tystion amrywiol sydd wedi ein helpu i gynnal yr ymchwiliad hwn. Roedd adroddiadau'r tystion yn aml yn ddirdynnol ac yn anodd gwrando arnynt.
Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus pwysig yng Nghymru; credir ei fod yn effeithio ar oddeutu 42,000 o bobl yng Nghymru ac mae i'w weld yn fwyaf cyffredin ymysg pobl hŷn. Mae dementia yn effeithio ar un ym mhob 20 o bobl dros 65 oed, ac oddeutu un o bob pump o bobl dros 80 oed. Yn fyd-eang, rhagwelir y bydd niferoedd y bobl sy'n byw gyda dementia yn codi 204 y cant, sy'n ffigur syfrdanol, dros y tri degawd nesaf. Yn anffodus, dementia yw'r unig gyflwr yn y 10 achos marwolaeth uchaf na cheir triniaeth i atal, gwella neu arafu ei gynnydd. Felly mae'n rhaid inni reoli'r symptomau cystal ag y gallwn, a thrwy sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl sy'n deall dementia, gallwn wneud yn siŵr fod pobl â dementia yn byw'n annibynnol cyhyd ag sy'n bosibl mewn amgylchedd cefnogol. Mae pobl â dementia yn agored i niwed ac mae'n bwysig fod staff wedi'u hyfforddi'n gywir yn rhoi'r gofal gorau posibl i unigolyn â dementia er mwyn diwallu'r anghenion penodol hyn, a bod yr urddas a'r parch hwnnw'n weladwy ac yn cael ei gynnal bob amser wrth helpu'r bobl hyn, sydd heb lais yn aml.
Wrth i'r clefyd ddatblygu, bydd angen mwy a mwy o ofal arbenigol ar y rheini sy'n byw gyda dementia, ac wrth i nifer yr achosion o'r clefyd gynyddu, rydym yn dibynnu mwy a mwy ar gartrefi gofal i ofalu am y rhai sy'n byw gyda'r clefyd hwn, a dyna pam y mae'n peri pryder fod cynnydd wedi bod yn y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal er mwyn trin symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia. Nid yw'r cyffuriau hyn wedi'u trwyddedu ar gyfer defnydd o'r fath a chredir bod eu defnydd yn cyfrannu at farwolaethau cynnar bron i 2,000 o gleifion dementia bob blwyddyn. Mae hwn yn ystadegyn syfrdanol. Daeth yn amlwg, yn ystod ein hymchwiliad, fod y cyffuriau hyn yn cael eu rhoi fel mater o drefn mewn ymateb i ymddygiad heriol rhai cleifion sydd â dementia, er bod yr ymddygiad heriol yn ganlyniad i angen heb ei ddiwallu nad yw'r unigolyn â dementia yn gallu ei fynegi. Roedd hi hefyd yn amlwg fod diffyg mynediad at weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd yn gwaethygu'r sefyllfa.
Yn ystod ein sesiynau gyda thystion, daeth yn amlwg fod casglu'r dystiolaeth ar y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig yn anodd, gan nad oedd y data wedi'i chasglu nac ar gael yn rhwydd oherwydd hynny. Galwodd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Chyfadran Seiciatreg yr Henoed am archwiliadau i gasglu data ar arferion rhagnodi, y dywedant eu bod yn hanfodol i ddeall nifer yr achosion a phatrymau defnydd o'r cyffuriau hyn. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i leihau'r arfer o ragnodi'r cyffuriau hyn yn amhriodol. Fodd bynnag, fel y rhan fwyaf o fy nghyd-aelodau ar y pwyllgor, hoffwn gael sicrwydd na fydd cynnull y grŵp perthnasol o arbenigwyr i edrych ar yr argymhelliad hwn a'r argymhellion cysylltiedig yn cymryd gormod o amser, ac na fyddwn yn edrych ar rai blynyddoedd eto cyn y gweithredir yr argymhellion hyn.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu ein barn fod y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer rheoli symptomau ymddygiadol a seicolegol dementia yn annerbyniol. Rwy'n ddiolchgar ei fod wedi derbyn rhai o'n hargymhellion, ond rwy'n ei annog i sicrhau y cânt eu gweithredu cyn gynted ag y bo modd. Pobl â dementia yw rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas a dylent gael eu diogelu rhag niwed, nid eu rhoi mewn perygl er mwyn gwneud gwaith rhywun yn haws. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod y camddefnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig ar gyfer cleifion sydd â dementia yn cael ei ddileu, ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn gwneud cynnydd cyflym ar ein hargymhellion.