Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n hapus iawn i ymateb i'r ddadl. Bu'n ddadl ardderchog, ac rwy'n meddwl bod hynny'n dyst i ansawdd y cyfraniadau; yn amlwg, mae'n dyst i ansawdd y dystiolaeth a gymerasom dros y misoedd gan nifer o dystion—yn ysgrifenedig ac ar lafar—ac yn amlwg mae'n dyst i ansawdd y cymorth a gawn fel pwyllgor gan ein clercod a'n hymchwilwyr. Dyma ymdrech tîm yn wir, ac ymdrech tîm y gellir ei chyfiawnhau am ein bod yn ceisio mynd i'r afael ag anghyfiawnder tuag at grŵp o bobl agored iawn i niwed, fel y clywsom.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet a'r Aelodau eraill am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dechreuasom gydag Angela Burns a chyflwyniad grymus am yr anesmwythyd ynglŷn ag argymhellion 9 a 2. Lynne Neagle wedyn—perfformiad arall gwirioneddol ardderchog gan Lynne yr wythnos hon eto am y newid perfformiad sylfaenol sydd ei angen yma. Nid dyma'r adroddiad beirniadol cyntaf ynglŷn â meddyginiaeth wrthseicotig. Gallwn gymryd rhai o'r argymhellion 'derbyn mewn egwyddor' pe bai hwn y tro cyntaf inni gael adroddiad am yr union bwnc hwn. Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau sydd wedi dweud yr un peth fwy neu lai—ein bod yn gwneud cam â'n pobl fwyaf agored i niwed mewn cartrefi gofal. Mae angen gwneud rhywbeth am y peth, a dyna pam na allwn dderbyn pethau mewn egwyddor mwyach. Rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Clywaf yr hyn a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond clywais yr hyn a ddywedodd y comisiynydd pobl hŷn hefyd. Mae angen newid—newid sylweddol—mewn diwylliant a pherfformiad, ac mae angen inni fynd i'r afael â lefelau staff nyrsio yn ein cartrefi gofal, ac ar ein wardiau ysbyty, fel roedd Lynne Neagle yn dweud.
Cyfraniad ardderchog arall hefyd gan Rhun am yr holl fater ynghylch 'derbyn mewn egwyddor', a chredaf, fel y dywedodd sawl un, nid yn unig yn y ddadl hon ond mewn dadleuon eraill, fod angen ymdrin â'r mater yn nhermau derbyn neu wrthod.
Diolch hefyd i Caroline Jones am ei chyfraniad, a hefyd i Julie Morgan, a bwysleisiodd eto y pwynt a wneuthum ar y dechrau: mae yna offer ar gael, mae yna restrau gwirio ar gael i asesu beth sy'n achosi'r hyn a labelwn fel ymddygiad heriol. Mae angen inni edrych i weld pam y mae pobl â dementia yn adweithio yn y ffordd y maent yn ei wneud weithiau. Mae angen inni edrych ar yr unigolyn ei hun, ac mae yna offer rhestr wirio amrywiol sy'n ein galluogi i wneud hynny. Un enghraifft ragorol yw proffil adwaith niweidiol i gyffuriau Prifysgol Abertawe y cyfeiriwyd ato eisoes gennyf fi a chan Julie Morgan, ac a ddatblygwyd gan dîm yr Athro Sue Jordan ym Mhrifysgol Abertawe.
Hefyd, diolch i Suzy Davies am gyfraniad rhagorol, a hefyd am nodi'r angen am frys. Oherwydd, fel rwyf eisoes wedi dweud, ac rydych chi wedi'i ddweud hefyd, buom yma o'r blaen, ac yn awr yw'r amser i weithredu, nid i gael adroddiad arall i feirniadu perfformiad presennol. Felly, cafwyd adroddiadau blaenorol, mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi mynegi pryderon ar sawl achlysur, ac mae gennym adroddiad etifeddiaeth gan bwyllgor iechyd blaenorol, fel rydym wedi sôn a phob un yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Ni ddylai byth fod yn ddewis cyntaf.
Yn dilyn y ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet, fel y mae wedi ein sicrhau, yn rhoi ystyriaeth bellach i'r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr adroddiad hwn a'r hyn a fynegwyd yn y cyfraniadau llafar heddiw, ac yn ystyried hefyd yr argymhellion a wnaed gennym er mwyn darparu'r atebion hirdymor sydd eu hangen. Oherwydd mae hyn yn ymwneud â thrawsnewid gofal. Nid ymwneud â chadw pobl dan reolaeth y mae. Mae'n ymwneud â thrawsnewid gofal pobl â dementia yng Nghymru. Nid yw ein pobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru yn haeddu dim llai. Diolch yn fawr.