Tagfeydd Traffig yng Nghanol De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:57, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mater i Gyngor Bro Morgannwg yw hwn yn bennaf, wrth gwrs, ond dyfarnwyd cyllid o £20,000 gennym yn 2016-17 ac £80,000 yn 2017-18 i'r cyngor tuag at astudiaeth yn ystyried y dewisiadau ar gyfer datrys tagfeydd traffig yn Ninas Powys. Ymestynnwyd cwmpas y gwaith hwnnw ym mis Ebrill 2018, a deallaf fod Cyngor Bro Morgannwg yn ariannu gwaith ychwanegol. Bwriedir cynnal ymgynghoriad ar y cam nesaf yn ystod y mis Medi hwn—mis Medi 2018.