Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Rydym ni wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r terfynau cyflymder ger ysgolion ar neu wrth ymyl cefnffyrdd ac mae gennym raglen aml-flwyddyn i gyflwyno terfynau 20 mya rhan-amser yn y lleoliadau hynny. Rydym ni hefyd yn darparu cyllid i awdurdodau lleol weithredu ardaloedd a therfynau 20 mya drwy'r grantiau diogelwch ar y ffyrdd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. Rydym ni hefyd wedi comisiynu Dr Adrian Davis i gynnal adolygiad o dystiolaeth ar y terfynau 20 mya i lywio unrhyw ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Bydd yr adolygiad hwnnw yn cael ei gwblhau ym mis Awst a bydd hynny'n dangos i ni beth fydd y cyfeiriad ar gyfer symud ymlaen.