Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, dyma'r drydedd blaid sy'n codi i gefnogi 20 mya fel y peth naturiol yn ein trefi a phentrefi ni. Pan oeddwn i'n mynd i'r ysgol gynradd, roedd 90 y cant o blant yn cerdded nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd ar eu pennau eu hunain. Erbyn hyn, dim ond 25 y cant sy'n teithio ar eu pennau eu hunain nôl ac ymlaen i'r ysgol gynradd. Mae hynny oherwydd bod y car wedi dod i ddominyddu ein tirwedd drefol ni, mewn ffordd sydd ddim yn naturiol, sydd ddim yn caniatáu chwarae'n naturiol, sydd ddim yn caniatáu iechyd naturiol ychwaith. Felly, o leiaf, a wnewch chi roi'r grym i awdurdodau lleol nawr i gyflwyno'r parthau hyn heb unrhyw rwystr gan Lywodraeth Cymru?