Part of the debate – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Rydym yn gwybod mai'r flwyddyn o'n blaenau fydd un o'r prysuraf o ran deddfwriaeth ers i Gymru gael pwerau deddfu sylfaenol. Wrth i'r DU baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, bydd yna swm sylweddol o waith i'r Cynulliad hwn ymgymryd ag ef rhwng nawr a mis Mawrth os ydym am gael llyfr statud cwbl weithredol wrth inni ymadael. Bydd hwn yn gyfnod heriol ac ni ddylid tanamcangyfrif y llwyth gwaith deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â gadael yr UE.
Bydd angen i'r Cynulliad ymdrin â rhaglen sylweddol o gywiro rheoliadau o dan y Ddeddf tynnu'n ôl o'r UE rhwng mis Hydref a mis Mawrth. Byddwn yn parhau i adolygu'r angen ar gyfer Biliau sy'n gysylltiedig â Brexit dros y 12 mis nesaf, ac mae'n debygol y bydd angen cydsyniad y Cynulliad hwn ar nifer o Filiau Brexit y DU. Cyn belled ag y bo modd, ni ddylem ganiatáu i'r llwyth gwaith Brexit hwn gyfyngu ar ein huchelgeisiau deddfwriaethol, ond mae'n rhaid inni fod yn hyblyg ac yn barod i addasu ein rhaglen ddeddfwriaethol pe bai'r angen yn codi.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd yr awenau o ran amddiffyn hawliau plant. Rydym wedi ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn y Mesur nodedig Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Byddwn yn parhau i weithredu er mwyn amddiffyn plant a hawliau plant a byddwn yn cyflwyno Bil i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cefnogi hawliau plant drwy wahardd y defnydd o gosb gorfforol. Rydym wedi ymgynghori yn eang a bydd yr ymatebion gan y cyhoedd, rhieni a phobl ifanc yn helpu i lunio ein cynigion.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn credu y dylai cyfraith Cymru fod yn glir a hygyrch nid yn unig yn awr, ond yn yr hirdymor. Rydym wedi dechrau rhaglen i atgyfnerthu a chyfundrefnu cyfraith Cymru ond bydd hon yn siwrnai hir. Bydd cwblhau llyfr statud clir, hylaw a threfnus yn cymryd llawer o flynyddoedd, ond mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gwneud cynnydd cyson a pharhaus. Byddwn felly yn cyflwyno Bil yn ymrwymo'r Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac yn gwneud darpariaeth ynghylch sut y caiff deddfwriaeth Cymru ei dehongli.
Llywydd, cyhoeddais y llynedd y byddem yn cyflwyno Bil llywodraeth leol. Bydd y Bil hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y flwyddyn ac yn cynnwys diwygio trefniadau etholiadol awdurdodau lleol, gan ymestyn yr etholfraint i rai 16 a 17 mlwydd oed. Bydd hefyd yn cynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â chanlyniad ein hymgynghoriad yn ddiweddar ar Bapur Gwyrdd llywodraeth leol. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwneud datganiad manwl ar hyn a'r Bil yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon yn awyddus i sicrhau bod ansawdd yn ganolog i'n GIG. Ar yr adegau prin hynny pan fydd rhywbeth yn mynd o'i le—ac, yn anffodus, mewn system sy'n dibynnu ar bobl yn gweithio dan bwysau difrifol, o bryd i'w gilydd bydd pethau yn mynd o chwith—rydym yn awyddus i gael gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac yn gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau. Byddwn ni, felly, yn cyflwyno deddfwriaeth i sefydlu dyletswydd o ansawdd ar gyfer y GIG yng Nghymru a dyletswydd o onestrwydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai dyletswydd o onestrwydd yn rhoi rhwymedigaethau statudol ar bob corff iechyd yng Nghymru i fod yn agored a thryloyw, ac yn nodi'r broses sydd i'w dilyn pan fydd pethau'n mynd o chwith a phobl yn dioddef niwed. Bydd y Bil hwn hefyd yn sefydlu corff annibynnol newydd i gynrychioli llais y dinesydd, i sicrhau bod gan bobl lais cryfach sy'n adlewyrchu eu profiadau o'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd hefyd yn cynnwys cynigion i fynnu bod byrddau ymddiriedolaeth GIG yn penodi is-gadeirydd.
Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol. Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Llywydd, gwneuthum fy natganiad deddfwriaethol cyntaf fel Prif Weinidog ychydig dros wyth mlynedd yn ôl. Y datganiad hwn fydd fy un olaf i a hyderaf y byddwch chi yn caniatáu imi fyfyrio ar yr hyn y mae'r Llywodraeth hon wedi ei gyflawni yn yr amser hwnnw. Mae tai wedi bod, ac yn parhau i fod, yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. Rydym wedi cymryd camau i amddiffyn tenantiaid ac atal digartrefedd. Rydym wedi terfynu'r hawl i brynu yng Nghymru. Rydym wedi gwarchod ein stoc o dai cymdeithasol a thai cyngor. Bydd Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru), sy'n destun craffu gan y Cynulliad ar hyn o bryd, os caiff ei basio, yn gwahardd asiantau gosod rhag codi ffioedd ar denantiaid, gan ddileu'r rhwystrau rhag cael mynediad a symud o gwmpas yn y sector rhentu preifat.
Rydym wedi gwneud diwygiadau mawr i'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru, rydym wedi deddfu i wella safonau hylendid drwy ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd arddangos eu sgoriau ar eu drysau, a bydd Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn diwygio sut yr ydym yn cynllunio ac yn adeiladu seilwaith ar gyfer cerdded a beicio yng Nghymru. Mae gan Gymru draddodiad hir a balch o weithredu radical mewn iechyd cyhoeddus a'r sefydliad hwn oedd y cyntaf yn y DU i bleidleisio i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus a'r cyntaf i wahardd ysmygu mewn ceir pan fydd plant yn bresennol. Llywydd, rwy'n falch o'r hyn a gyflawnwyd gennym drwy weithio gyda'n gilydd yn y Cynulliad hwn i ddiogelu iechyd y cyhoedd yng Nghymru: gwelliannau yn y ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus, cyfundrefn drwyddedu ar gyfer tatŵio a thyllu'r corff, gwaharddiad ar dyllu mewn rhan bersonol o'r corff ar gyfer pobl dan 18 oed, gwaharddiad ar welyau haul heb eu staffio ac isafswm pris uned ar alcohol.
Efallai mai Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013 oedd y ddeddf wirioneddol arloesol ac mae'n achub bywydau. Mae'n enghraifft arall o sut y mae Cymru wedi arwain y ffordd yn y DU, gan newid y system gydsynio ar gyfer rhoi organau i gynyddu nifer yr organau sydd ar gael i'w trawsblannu. Ond nid hwn yw'r unig dir newydd a dorrwyd gennym. Mae Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn rhoi amddiffyniad a chymorth i ddioddefwyr, ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn sbarduno cyrff cyhoeddus, gan gynnwys y Llywodraeth, i gynllunio a darparu mewn modd cynaliadwy i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Llywydd, lle bo angen, rydym wedi defnyddio ein pwerau deddfwriaethol i amddiffyn datganoli. Drwy Ddeddf y Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017, ac yn fwyaf diweddar Ddeddf y Gyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, mae'r Llywodraeth hon wedi sicrhau, pan fyddo buddiannau Cymru dan fygythiad oherwydd gweithredoedd Llywodraeth y DU, ein bod wedi defnyddio'r arfau sydd ar gael inni er mwyn sefyll dros Gymru. Yn ystod fy amser fel Prif Weinidog, nid yw ein setliad datganoli wedi aros yn ei unfan. Gan ddefnyddio ein rhaglen ddeddfwriaethol, rydym wedi cyflawni ein trethi Cymreig newydd—y cyntaf am bron 800 mlynedd—ac Awdurdod Cyllid Cymru.
Llywydd, mae yna lawer mwy o ddeddfau y gallwn eu crybwyll, ond mae maint yr hyn a gyflawnwyd yn yr amser hwn yn eglur. Efallai fod yr holl ddeddfau y soniais amdanynt wedi cael eu cynnig a'u cyflwyno gan y Llywodraeth, ond maen nhw wedi cael eu siapio gan randdeiliaid ac wedi cael eu gwella gan waith craffu'r Cynulliad hwn. Rydym wedi cydweithio ar draws y Siambr hon i sicrhau bod ein deddfwriaeth yr orau y gall fod a sicrhau ei bod yn gwella bywydau pobl Cymru. Byddwn yn parhau i wneud hynny ar Filiau'r Llywodraeth sydd ar hyn o bryd gerbron y Cynulliad, a'r biliau yr wyf wedi eu cyhoeddi heddiw. Efallai mai hwn fydd fy natganiad deddfwriaethol olaf i, ond bydd rhaglen ddeddfwriaethol lawn ar gyfer cyflawni ymrwymiadau'r Llywodraeth hon, gan gynnwys Bil mewn cysylltiad â'r iaith Gymraeg, yn cael ei chyhoeddi'r flwyddyn nesaf. Ac felly, Lywydd, cymeradwyaf y rhaglen ddeddfwriaethol hon i'r Cynulliad.