Part of the debate – Senedd Cymru am 3:33 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Brif Weinidog, pan rydych chi'n edrych ar y Cofnod, mae'n siŵr y byddwch chi'n canfod bod yna chwe chynnig deddfwriaethol gan arweinydd Plaid Cymru yn ei hymateb i'ch cynigion chithau, chwech ohonyn nhw yn syniadau cyffrous a radical ar gyfer Cymru. A hoffwn i ychwanegu tri arall atyn nhw.
Yn gyntaf oll, fe ddywedodd arweinydd y tŷ wrthyf fi, wrth i ni drafod y Bil a ddaeth yn Ddeddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018, y byddwch chi—eich Llywodraeth chithau—yn manteisio ar y cynnig cyntaf i gyflwyno egwyddorion amgylcheddol i mewn i ddeddfwriaeth Gymreig. Fe wnaethoch chi wneud hynny wrth wrthod cynigion Plaid Cymru i ysgrifennu'r egwyddorion yna ar wyneb deddfwriaeth Gymreig. Ac ers hynny, wrth gwrs, mae Tŷ’r Arglwyddi, yn yr EU withdrawal Bill, wedi mynd ymlaen i ysgrifennu'r egwyddorion yna. Ac felly mae yna rywbeth ar goll fan hyn sydd ddim yn y ddeddfwriaeth Gymreig, ond sydd bellach yn neddfwriaeth Cymru a Lloegr, ond ar gyfer Lloegr yn unig, fel y dywedoch chi. Felly, pryd y cawn ni weld yr egwyddorion amgylcheddol yma yn cael eu hysgrifennu i ddeddfwriaeth sylfaenol Gymreig?
Yn ail, mae'ch Ysgrifennydd Cabinet dros faterion gwledig yn ymgynghori ar faterion eang iawn ar hyn o bryd ynglŷn â chyllido cefn gwlad wrth adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymddangos i fi bod rhai o'r cynigion yna yn gofyn am Fil yn ymwneud ag amaeth, ac felly pryd cawn ni'r cyfle i drafod deddfu ar gyfer y pwrpasau hynny? Rwy'n cymryd, felly, nid yn ystod y flwyddyn nesaf.
Ac yn olaf, mae eich Ysgrifennydd Cabinet dros Gyllid wedi mynegi ei fwriad i fynd ymlaen â threth tir gwag fel un o'r trethi newydd lle gallwn ni ddefnyddio ein pwerau newydd ni i fynd â ni ymlaen. Rwy'n cymryd y bydd angen deddfwriaeth arnom i sylfaenu unrhyw dreth ac na fyddwch yn chwilio am ddeddfwriaeth fframwaith ar gyfer cyflwyno trethi. Felly, pryd welwn ni'r dreth yma? A ydym i gymryd, felly, na fydd y dreth tir gwag yn realistig o gwbl yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf?