Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
A gaf i ddiolch i Jane Hutt am y pwyntiau pwysig iawn hynny a rhoi sicrwydd iddi y byddaf yn bendant yn sôn am y pwyntiau hyn, fel yr ydym ni eisoes wedi gwneud bob cyfle a gawn ni gyda Llywodraeth y DU? Rwyf wedi dweud eisoes y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, y byddem ni wedi bod yn barod i roi croeso cymedrol i Bapur Gwyn Chequers, i rai agweddau arno, ac un o'r rhesymau y byddem ni wedi bod yn barod i wneud hynny yw oherwydd ei fod yn ailadrodd ymrwymiad y mae Prif Weinidog y DU wedi ei roi o'r blaen i beidio â diddymu'r hawliau hynny y mae dinasyddion Cymru a'r DU wedi eu hennill o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—hawliau gweithwyr, hawliau dinasyddiaeth, hawliau dynol, hawliau defnyddwyr, hawliau cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac ati. Ond y rheswm pam na fu hi'n bosib gwneud hynny yn y ffordd y gallem ni fod wedi bwriadu ei wneud y prynhawn yma yw bod y Papur Gwyn yn ymddatod o'n blaenau. Ddoe, cytunodd Prif Weinidog y DU i welliannau a gyflwynwyd gan ei Brexitwyr digyfaddawd sy'n uniongyrchol groes i gynnwys y Papur Gwyn ei hun, a chynlluniwyd y pethau a ddywedais ar y penwythnos i ddangos os bydd Llywodraeth y DU, os bydd Prif Weinidog y DU, yn barod i ymrwymo'n llwyr i Brexit synhwyrol, i herio'r bobl yn ei phlaid ei hun nad ydyn nhw o'r farn honno, yna byddem ni'n barod i gynnig rhywfaint o gymorth yn hynny o beth. Ond os yw hi'n credu mai'r ffordd inni gyflawni Brexit synhwyrol yw drwy gyfaddawdu â phobl o safbwynt gwahanol iawn yn barhaus, yna dyna lle mae gennym ni'r peryglon y mae Jane Hutt wedi tynnu sylw atyn nhw. Dyna pryd y byddwn ni yn y pen draw mewn sefyllfa lle, er mwyn cystadlu yn y byd, y bydd pobl sy'n meddwl mai'r ffordd i wneud hynny yn aberthu pob amddiffyniad y mae pobl sy'n gweithio wedi ei ennill o ganlyniad i'w haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r hyn yr oeddwn i yn ei olygu pan ddywedais i y byddai pobl sy'n gweithio yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig yn cael eu haberthu mewn amgylchiadau o'r fath.