7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi Adroddiad Llywodraethu Donna Ockenden

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:02 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 6:02, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cydnabod yr amrywiaeth o sylwadau a phryderon y mae'r Aelod wedi eu nodi yn gyson drwy gydol y mesurau arbennig a'r adroddiad Ockenden cychwynnol i ward Tawel Fan. I ymdrin â'r hyn a gredaf a oedd yn gwestiynau, yn hytrach na'r sylwadau ehangach a nodwyd, o'r cychwyn rwy'n cydnabod y sefyllfa anodd iawn y mae'r teuluoedd ynddi. Mae hon wedi bod yn daith hir, ac rwy'n deall pam y mae cau pen y mwdwl yn anhygoel o anodd i deuluoedd—rwyf wedi cydnabod hynny ar bob achlysur yr wyf wedi bod yn y Siambr hon, a gwnes i hynny ar ddechrau fy natganiad heddiw.

Nid adroddiadau'r teuluoedd o adroddiad blaenorol y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw pwnc y datganiad heddiw, ond fe wnaethoch chi ofyn amdano—fe wnaf eto fynd ar hynt y broses ar gyfer darparu'r rheini, ond mae dyddiadau i fod i gael eu cytuno rhwng HASCAS a theuluoedd i adroddiadau unigol gael eu llunio. Os oes gan unrhyw Aelod unrhyw dystiolaeth nad oes unrhyw gyswllt wedi bod neu fod dyddiadau amhosibl yn cael eu rhoi, byddaf yn falch o godi hynny â'r bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod HASCAS eu hunain yn rhoi amrywiaeth o ddyddiadau i wneud yn siŵr y gellir darparu'r adroddiadau unigol hynny ar gyfer y teuluoedd a'r wybodaeth y bydd pobl, wrth gwrs, am ei gweld.

Fe wnaethoch chi sôn yn fwy cyffredinol am gyfrifoldeb a'ch galwad cyson i bobl gael eu diswyddo. Rwy'n glir iawn mai fi sy'n gyfrifoldeb am y gwasanaeth iechyd gwladol cyfan—yr hyn y mae'n ei wneud yn dda ac, yn yr un modd, yr hyn nad yw'n ei wneud mor dda. Wrth gwrs, mae llawer o'r amser yn y Siambr hon yn cael ei dreulio yn sôn am, ac yn ymateb i bwyntiau pan fo rhywbeth o'i le yn y gwasanaeth iechyd, ac mae hyn yn enghraifft o achos pan nad yw ansawdd iechyd a gofal wedi bod yr hyn y byddai'r un ohonom ni yn dymuno ei weld.

Ni allwn i fod yn gliriach am fy siom ynghylch cyflymder y gwella yn ystod y mesurau arbennig na'r angen i ragor o welliannau ddigwydd. Dyna pam yr ydym ni'n darparu mwy o gefnogaeth i'r meysydd heriol hynny gyda'r bwrdd iechyd—y capasiti ychwanegol ar lefel weithredol a'r capasiti ychwanegol yr ydym ni'n edrych arno unwaith eto wrth ymateb i'r argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn ac, yn wir, yr adroddiad HASCAS.

Mae'n rhaid i'r cynllun gweithredu fod yn un go iawn ac yn un y gellir ei gyflawni, oherwydd fe wyddoch chi gystal â minnau fod Donna Ockenden yn ei hadroddiad yn awgrymu dod yn ôl yn yr hyn y mae hi'n cyfeirio ato fel chwarter 2 y flwyddyn nesaf, felly tua chanol yr haf y flwyddyn nesaf. Felly, mewn tua 12 i 15 mis, bydd angen, wrth reswm, ddychwelyd at hyn, ond beth bynnag am hynny mae'r bwrdd iechyd ei hun wedi cydnabod bod angen cynllun priodol arno i ymateb iddo. Rwy'n disgwyl iddynt ddod yn ôl at eu bwrdd yn rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt yn gyhoeddus am y cynnydd a wneir neu na wneir mewn ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad hwn ac adroddiad HASCAS.

Nid fy lle i yw cyfeirio'r adroddiad hwn at yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron. Maen nhw'n gwbl ymwybodol o gynnwys yr adroddiad—sut allai neb yn y gogledd fod yn anymwybodol ohono? Nhw sydd i benderfynu a oes achos i'w ateb. Nid fy lle i yw penderfynu bod achos i'w ateb am ddynladdiad corfforaethol. Byddwn yn rhybuddio Aelodau i beidio â mynd ati i ddefnyddio'r iaith fwyaf eithafol bosibl ynghylch yr hyn sy'n amgylchiadau anodd iawn i deuluoedd a staff yn y bwrdd iechyd. Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am beidio â chydsynio i'r galw a wnaeth yr Aelod ar ddechrau hyn, bedair blynedd a hanner yn ôl, i ddiswyddo pobl ar unwaith heb unrhyw broses. Byddai hynny wedi bod y peth anghywir i'w wneud ar y pryd; mae'n dal i fod y peth anghywir i'w wneud yn awr. Fel cyflogwr, mae'n rhaid i'r bwrdd iechyd ddilyn proses briodol â'u cyflogeion, ac os oes camau disgyblu i'w cymryd, yna dylai'r camau hynny gael eu cymryd.

O ran eich pwynt ehangach ynglŷn â chyllid cyfalaf, mae'r llythyr gan y prif weithredwr yn nodi'r ystod o gyllid a ddarparwyd ac y gwnaed defnydd ohono i wella'r amgylchedd, yn benodol yn y gwasanaethau iechyd meddwl. Ac unrhyw beth arall a ddaw i mewn, rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth ymateb i briodol. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn ymwybodol o'r materion unigol y mae'r Aelod yn cyfeirio atynt. Os hoffai ysgrifennu ataf gyda'r manylion, rwy'n barod i ymateb iddo a sicrhau bod Aelodau eraill yn ymwybodol o'r ymateb.

Ond, o ran sefyllfa'r gwasanaeth iechyd, fe wnaethoch chi'r pwynt hwn nad oes dim wedi newid ynghylch y gwasanaeth iechyd ac nad yw wedi gwella, ac eto mae'r gwasanaethau mamolaeth wedi'i hisgyfeirio, ac eto rydym yn gweld rhagoriaeth wirioneddol yn y ddarpariaeth gofal iechyd mewn amrywiaeth o feysydd ledled y gogledd. [Torri ar draws.] Rwy'n credu y byddai rhywfaint o gymedroldeb—