Part of the debate – Senedd Cymru am 6:07 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn innau hefyd gofnodi fy niolch i Donna Ockenden a'i thîm am baratoi a chyhoeddi yr adroddiad diweddaraf hwn. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y datganiad hefyd, ond hoffwn ei roi ar y cofnod fy mod wedi gofyn yn y Pwyllgor Busnes inni gael dadl ar y materion hyn. Rydym ni ar bwynt pan mae angen dadl arnom ni, ac i bobl sy'n gwylio'r drafodaeth hon heddiw, mae'n werth nodi, i bobl sydd ddim mor gyfarwydd â sut y mae'r Cynulliad yn gweithio, mai'r gwahaniaeth rhwng datganiad a dadl yw bod amser yn gyfyng mewn datganiad; mewn dadl mae gennym ni ryddid ychwanegol nid yn unig i gael mwy o amser i holi'r Llywodraeth, ond hefyd i gyflwyno gwelliannau i gynigion, ac i gynnal pleidlais ar y materion. Felly, edrychaf ymlaen at gael y ddadl honno maes o law.
Fyddwch chi ddim yn synnu i glywed bod cynnwys eich datganiad heddiw yn fy siomi. Ymddengys mai ychydig iawn o gydnabyddiaeth sydd bod adroddiad Ockenden yn amlygu'r methiant i weithredu argymhellion adroddiad ar ôl adroddiad, gan gynnwys y cyfnod, wrth gwrs, y mae Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig. Ac, fel y dywedodd Einstein wrthym am y siawns o gael canlyniad newydd pan fyddwch yn cadw rhoi cynnig ar yr un peth dro ar ôl tro, dyma ni eto â datganiad arall gennych chi lle'r ydych chi'n rhoi'r pwyslais a'r cyfrifoldeb am newid, neu am sicrhau newid, ar y bwrdd ei hun. Mae angen dull gweithredu newydd gan y Llywodraeth.
Rwyf i eisiau tynnu sylw at un mater penodol a godwyd gan un o'm hetholwyr i ddangos cyn lleied, mae'n ymddangos, sydd wedi newid. Mae hi'n ysgrifennu, 'Cefais fy hun yn annisgwyl yn y sefyllfa o fod yn chwythwr chwiban yn Betsi Cadwaladr ryw 18 mis yn ôl'—mae hynny mewn cyfnod, wrth gwrs, tra rydych chi wedi bod wrth y llyw—aiff ymlaen, 'ar ôl fy ymdrechion cychwynnol i drafod fy mhryderon ag uwch reolwr, cefais fy ngwrthod. Ers imi gymryd y cam tyngedfennol hwn y llynedd, rwyf wedi wynebu anawsterau a rhwystrau diddiwedd. Mae'r anawsterau hynny'n cynnwys cwynion yn mynd ar goll, trawsgrifiadau cyfarfodydd yn cael eu ffugio, ymchwilwyr yn cael eu penodi nad oedd yn gymwys yn glinigol neu nad oedd â digon o awdurdod neu a oedd wedi'u cysylltu yn rhy agos â'r bobl a enwyd yn y pryderon, ac yn wir roedd un ymchwilydd yn gweithio rhan o'i swydd mewn swyddogaeth is i berson a enwyd.' Cofiwch y dylai'r pwyslais ar welliannau a roddwyd ar waith ar ôl sgandal Tawel Fan yn sicr fod wedi rhoi diwedd ar y diwylliant hwn o beidio â chredu chwythwyr chwiban a bwlio'r rheini sy'n mynegi pryderon. Nawr, onid yw'n wir mai'r hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw bwrdd iechyd nad oedd mewn gwirionedd yn gweithio o'r cychwyn cyntaf, ac mae'n ymddangos nad yw'n gweithio o hyd, dair blynedd ar ôl i chi ddechrau ei redeg? Onid yw'n bryd cydnabod bellach efallai bod hwn yn fwrdd iechyd ag enw am fod yn afiach ac y tu hwnt i'w adsefydlu, bod angen model newydd ar gyfer darparu iechyd a gofal yn y gogledd?
Gadewch imi orffen drwy ofyn beth yw eich swyddogaeth chi yn y fan yma. A ydych chi'n cytuno mai eich cyfrifoldeb chi ydyw fel Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd? Os ydych chi'n cytuno â hynny, a ydych chi'n gweld bod methiannau wedi parhau yn ystod y cyfnod yr ydych chi wedi bod wrth y llyw? A ydych chi'n cytuno â hynny? Ac, os felly, pa ymateb y gall cleifion a'u teuluoedd ei ddisgwyl gennych chi yn sgil y ffaith eich bod chi wedi methu â mynd i'r afael â'r problemau o fewn Betsi Cadwaladr?