Part of the debate – Senedd Cymru am 6:41 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn wir, am y cyfarfodydd adeiladol sydd wedi cael eu cynnal rhyngof i ac yntau, a rhwng swyddogion y Pwyllgor Cyllid a swyddogion y Llywodraeth, sydd wedi arwain at sefyllfa lle mae'r penderfyniad ariannol yn cael ei gyflwyno heddiw. Hoffwn ddweud wrth Aelodau bod y newidiadau sydd wedi cael eu hawgrymu ac wedi cael eu trafod bellach wedi’u gwneud i’r memorandwm esboniadol yn sgil yr argymhellion a nodwyd yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rydym ni, fel Pwyllgor Cyllid, wedi cyhoeddi memorandwm esboniadol diwygiedig gydag agenda’r cyfarfod hwn i ddangos y newidiadau i’r asesiad effaith rheoleiddiol.
Mae’r newidiadau’n cynnwys esboniad o gostau staff, rhoi mwy o eglurder o ran costau fesul uned ar gyfer ymchwiliadau ar eu liwt eu hunain, a chyfiawnhad o gostau ychwanegol staff sy’n deillio o dderbyn cwynion llafar. Nid yw’r amcangyfrif o’r costau hyn wedi newid, ond mae’n cynnwys mwy o esboniad. Mae’r asesiad effaith rheoleiddiol bellach hefyd yn cynnwys y goblygiadau ariannol o ran darparwyr gwasanaethau iechyd preifat sy’n deillio o’r estyniad arfaethedig yn y Bil i bwerau’r ombwdsmon i ymchwilio i elfen o wasanaeth iechyd preifat yn ystod llwybr cyhoeddus a phreifat gyda’i gilydd.
Effaith net yr holl newidiadau i’r amcangyfrif o oblygiadau ariannol y Bil yw i gynyddu’r gost rhwng oddeutu £39,000 a £56,000 dros bum mlynedd. Cyfanswm cost diwygiedig y Bil i’r ombwdsmon, cyrff cyhoeddus a darparwyr gofal iechyd preifat—mae'r amcan, bellach, yn amrywio o £1.9 i £2 filiwn dros bum mlynedd. Wrth gwrs, nid costau yw bwriad y Bil, ond mae barn yr arbenigwr i’r pwyllgor cydraddoldeb hefyd wedi awgrymu bod potensial i’r Bil wireddu arbedion cost i’r sector cyhoeddus ehangach. Rwy’n gobeithio, ar sail y memorandwm esboniadol diwygiedig sydd wedi’i gyflwyno, y bydd y Cynulliad yn cytuno â’r cynnig y prynhawn yma.