Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:57, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, Lywydd, ni ddywedais y fath beth, i ateb ail gwestiwn Nick Ramsay. Ni wneuthum unrhyw sylwadau o gwbl ynghylch cyfeiriad posibl newidiadau treth. Yr unig beth a wneuthum oedd ymateb i'w awgrym fod yn rhaid inni gydymffurfio â'r gyfundrefn dreth dros y ffin. Nid dyna yw diben datganoli treth.

Byddwn yn edrych yn ofalus ar y dystiolaeth. Byddwn yn gwneud penderfyniadau yng ngoleuni'r amgylchiadau ar y pryd. Mae'r adroddiad y cyfeiriodd ato yn ei gwestiwn cyntaf, wrth gwrs, yn awgrymu mai ychydig iawn o symud a fyddai ar y ffin pe bai'r cyfraddau treth yng Nghymru yn uwch na'r rhai yn Lloegr, yn wahanol iawn i'r cyngor sy'n cael ei gynnig imi weithiau gan feinciau'r Ceidwadwyr yma.