Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wel, rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y sicrwydd a roddais i'r Aelod y tro diwethaf y gofynnodd y cwestiwn hwnnw imi, ac wrth gwrs, rydym yn monitro effaith y polisi ar drafodion, a lle y ceir tystiolaeth sy'n ein harwain i ddod i gasgliadau gwahanol, dyna a wnawn. Ond mae'r dreth trafodiadau tir ychydig dros dri mis oed bellach, felly mae'r sylfaen dystiolaeth ar hyn o bryd yn rhagarweiniol ar y gorau, a byddwn yn parhau i weld sut y bydd canlyniadau gwirioneddol hyn ar lawr gwlad yn edrych, yn hytrach na dyfalu beth y gallent fod.