Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, os yw Llywodraeth y DU yn gwneud yr hyn a ddywedodd y rhai a oedd o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd fyddai'n digwydd—sef gwarant na fyddai Cymru yr un geiniog ar ei cholled—mai yma yng Nghymru yw'r lle gorau i wneud y penderfyniadau ynghylch y ffordd orau o ddefnyddio'r arian hwnnw. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ymrwymiad, os daw arian i Gymru at ddibenion datblygu economaidd rhanbarthol, y byddwn ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Os daw arian i Gymru i gynnal ein heconomi wledig, caiff ei ddefnyddio i'r dibenion hynny. Ond dyma'r lle gorau i fynd i'r afael â manylion hynny, nid Llundain.