Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:01, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fe ailadroddaf, mewn gwirionedd, fod Llywodraeth Cymru, ers diwrnod y refferendwm, wedi derbyn y penderfyniad a wnaed yn y refferendwm. Nid ydym wedi dadlau â Brexit fel ffaith; penderfynwyd ar hynny gan y bobl mewn pleidlais. Mae ein ffocws bob amser ar ffurf Brexit, a gallaf ddweud hyn wrthi—pan fyddaf yn curo ar ddrysau mewn rhannau o fy etholaeth i, lle y pleidleisiodd niferoedd mawr o bobl, heb unrhyw amheuaeth, dros adael, byddant yn dweud wrthych na wnaethant bleidleisio dros y math anhrefnus, hunan-niweidiol o Brexit y mae hi a phobl eraill yn y Siambr hon yn ei gefnogi.