Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Rai misoedd yn ôl, mi ges i gyfle i’ch holi chi ynglŷn ag ymdrechion y Llywodraeth i fynd i’r afael â’r patrwm cynyddol o berchnogion ail gartrefi yn cofrestru eu heiddo fel tai gwyliau er mwyn osgoi talu treth gyngor. A chan eu bod nhw’n fusnesau bach, maen nhw’n gymwys am ryddhad busnes yn unol â chynllun rhyddhad ardrethi busnes y Llywodraeth. Mi ddywedoch chi bryd hynny y buasech chi’n gweithio efo’r awdurdodau lleol a’r swyddfa brisio er mwyn casglu data a monitro hyn. A oes modd inni gael diweddariad am hyn ac i weld beth mae’r data yn ei ddangos hyd yma? Oherwydd o ystyried bod yna gynnydd sylweddol yn y nifer o ail gartrefi yng Ngwynedd, er enghraifft, os nad ydy’r prosesau yma’n ddigon cryf, mae’n rhaid inni fod yn rhagweithiol er mwyn sicrhau na fydd y trethdalwr yn colli allan.