Y System Ardrethi Busnes

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:24, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wedi hynny, fel y gŵyr yr Aelod, ymrwymais i ddiwygio ein cynllun gwaith ar bolisi treth ar gyfer eleni, ac mae bellach yn cynnwys ymrwymiad penodol i fonitro gweithrediad y ddeddfwriaeth honno, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithredu fel y bwriadwyd ac nad yw'n creu cyfleoedd i osgoi trethi. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n rhan o'r cynllun treth; mae'n mynd rhagddo. Rwy'n bwriadu adrodd yn ôl ym mis Hydref, ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ar y gwaith a wnaed eleni o dan y cynllun treth, a byddaf yn adrodd ar y data rydym wedi'i gasglu fel rhan o'r ymarfer hwnnw.