Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Rydym yn edrych ymlaen at dderbyn adroddiad y comisiynydd plant ar effaith pontio. Byddwn yn ymrwymedig i weithio gyda'r comisiynydd plant i sicrhau bod profiadau pobl ifanc yn gwella pan fyddant yn dod yn oedolion a bydd hynny'n cynnwys, fel y dywed yr Aelod, cynllunio amlasiantaethol gwell, darparu gwybodaeth a chymorth clir, sicrhau bod y bobl ifanc eu hunain yn gallu chwarae rhan weithredol yn eu cynlluniau pontio eu hunain, gwelliannau i drafnidiaeth a chyfleoedd cyflogaeth ystyrlon.