Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Fel gweithiwr ac aelod blaenorol o fwrdd Cymorth i Fenywod Cwm Cynon, mae gennyf brofiad uniongyrchol o ddifrifoldeb ac effaith cam-drin domestig. Gall methiant i ddarparu cymorth fod yn fater o fywyd neu farwolaeth yn llythrennol, ac mae'r ystadegau cam-drin domestig yn fy etholaeth yn arbennig o frawychus. Dyna pam roeddwn yn pryderu wrth ddarllen am yr oedi cyn gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn yr adroddiad ardderchog a gynhyrchwyd gan Chwarae Teg yr wythnos diwethaf. A wnewch chi roi sicrwydd cadarn yn awr fod Llywodraeth Cymru yn unioni hyn a'r methiannau eraill a amlygwyd yn yr adroddiad penodol hwnnw?