Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Ie, mae'n brosiect gwych ac wrth gwrs, rwy'n hapus iawn i ymuno â hi a chanmol y bobl ifanc sy'n rhan o'r prosiect. Mae'n rhan bwysig iawn o'n strategaeth i sicrhau bod gan bobl ifanc lais a'u bod yn gallu mynegi'r llais hwnnw mewn ffordd ystyrlon i lywio ein strategaethau a'n cynlluniau gweithredu, ac rwy'n falch iawn ei bod wedi gallu mynychu'r rhaglen honno yn ddiweddar.